Beth rydyn ni’n ei wneud
Arweiniad i beth mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ei wneud, a sut mae’n gwneud hynny.
On this page
Gorfodi’r gyfraith
Mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol bwerau cyfreithiol eang a chyfarwyddiaeth ymroddedig o gyfreithwyr arbenigol sy’n arbenigo mewn cyfraith cydraddoldeb. Mae hyn yn golygu bod y comisiwn mewn sefyllfa dda i weithredu’n gyfreithiol ar ran unigolion, yn arbennig lle mae yna gyfleoedd strategol i wthio ffiniau’r gyfraith. Pan fydd yna gyfleoedd yn codi i greu cynseiliau cyfreithiol neu i esbonio a gwella’r gyfraith, bydd y comisiwn yn ceisio gwneud hynny.
Ni fyddwn ni’n gallu rhoi cymorth cyfreithiol uniongyrchol i bawb, ond gallwn gynnig cyngor i’r rhai na allwn ymgymryd â’u hachosion trwy ein llinell gymorth a’n hadnoddau ar-lein.
Mae’r comisiwn yn cyfrannu arian hefyd at sefydliadau allanol sy’n gallu darparu cymorth a chyngor cyfreithiol.
Mae gan y comisiwn bwerau sylweddol i allu gorfodi dyletswyddau cydraddoldeb sefydliadau ac awdurdodau, gan gynnwys, yn y pen draw, lansio ymchwiliadau swyddogol ac archwiliadau ffurfiol.
Nid oes gan y comisiwn y grym i roi cymorth cyfreithiol i unigolion ar sail hawliau dynol, oni bai fod cydraddoldeb yn ffactor yn yr achos. Fodd bynnag, mae gennym ni’r grym i gynnal ymchwiliadau ffurfiol neu adolygiad barnwrol er mwyn rhwystro achosion o dorri’r Ddeddf Hawliau Dynol.
Gall y comisiwn ymuno â chamau cyfreithiol a gymerir gan eraill hefyd, gan ymyrryd er mwyn hyrwyddo hawliau dynol.
Gallwch ddarllen llawer mwy am y gyfraith yn ein hadran gwybod eich hawliau, ac mae gennym adran benodol ar gyfer cyfreithwyr a chynghorwyr hefyd.
Back to top^
Dylanwadu ar ddatblygiad y gyfraith a pholisïau’r llywodraeth
Bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gweithio gyda’r llywodraeth wrth iddi symud tuag at un ddeddfwriaeth cydraddoldeb. Bydd y comisiwn yn ceisio helpu’r llywodraeth i greu deddfwriaeth effeithiol sy’n diogelu hawliau pobl ac yn helpu i wneud Prydain yn wlad sydd â hyder yn ei hamrywiaeth.
Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i hyrwyddo cymdeithas deg a chyfartal, lle mae gan bawb y cyfle i ffynnu a chyflawni eu potensial llawn. Bydd y comisiwn yn monitro perfformiad y llywodraeth mewn perthynas â’r ymrwymiadau hyn.
Bydd y comisiwn yn ceisio dylanwadu ar ddatblygiad a diwygiad pob polisi gan y llywodraeth hefyd, gan sicrhau bod y polisïau’n ystyried pwysigrwydd cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol.
Bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn sicrhau bod blaenoriaeth yn cael ei roi i gydraddoldeb, nid yn unig o fewn polisïau, ond mewn cynlluniau a strategaethau adrannol ar draws y llywodraeth hefyd.
Bydd y comisiwn hefyd yn diffinio dealltwriaeth gydag arolygiaethau gwasanaeth cyhoeddus er mwyn sicrhau bod cydraddoldeb yn cael ei hyrwyddo’n effeithiol.
Back to top^
Hyrwyddo arfer da
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gweithio gyda sefydliadau yn y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol er mwyn lleihau gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal i bob gweithiwr cyflogedig, cwsmer a defnyddiwr gwasanaeth.
Mae’r comisiwn yn darparu cymorth a chyngor ar bolisïau ac arferion cyfle cyfartal i lawer o sefydliadau a chwmnïau, mawr a bach: ac mae’n cyfathrebu ag adrannau llywodraethol a sefydliadau cynrychiadol o bob sector.
Mae’n rhaid i bron pob awdurdod cyhoeddus yn Lloegr, Cymru a’r Alban gydymffurfio â dyletswyddau statudol i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol a rhywiol a dileu gwahaniaethu. Mae’r dyletswyddau hyn yn mynd ag arfer da gam ymhellach, gan wneud cydymffurfio yn rhwymedigaeth gyfreithiol. Mae’r comisiwn yn darparu gwybodaeth am y dyletswyddau hyn a chanllawiau ynglŷn â’r ffyrdd gorau i ateb y gofynion hyn.
Mae’r comisiwn yn gweithio tuag at ddiffinio, hyrwyddo a chyhoeddi arfer gorau, er mwyn creu cymdeithas decach a mwy cyfiawn. Mae gennym ganllawiau ar arfer gorau, yn ogystal â chodau ymarfer statudol, y gallwch chi eu lawrlwytho.
Back to top^
Ymgyrchoedd, digwyddiadau a chyfathrebu
Mae ymgyrchoedd cyfryngau a chyfryngau newydd uchelgeisiol, hygyrch a heriol y comisiwn yn cymryd materion arbennig ac yn eu hamlygu mewn ffyrdd dychmygus sy’n ysgogi trafodaeth ac yn annog pobl i feddwl am y math o Brydain y maent eisiau byw ynddi.
Bydd y comisiwn yn addysgu ac ennyn brwdfrydedd y cyhoedd, gan ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth am gydraddoldeb a hawliau dynol. Trwy ddefnyddio syniadau gwreiddiol, digwyddiadau cyffrous a ffurfiau newydd o gyfathrebu, byddwn ni’n rhoi lle canolog i drafodaethau am gydraddoldeb.
Trwy ei ymgyrchoedd, mae’r comisiwn yn gobeithio dod yn llais adnabyddadwy, dylanwadol ac ysbrydoledig yn y sector cyhoeddus.
Back to top^
Meithrin cysylltiadau gwell
Mae gofyn i bob awdurdod cyhoeddus yn Lloegr, yr Alban a Chymru hyrwyddo cysylltiadau hiliol da. Cynhyrchodd y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol blaenorol ganllawiau ar-lein ar sut i hyrwyddo cysylltiadau hiliol da. Gallwch chi weld y canllawiau hyn ar ein tudalen archif gwefannau’r comisiynau a mynd i archif gwefan y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol (bydd angen i chi fewngofnodi’n gyntaf). Bydd y comisiwn yn helpu’r awdurdodau hyn i gymryd camau ymarferol tuag at gyflawni’r dyletswyddau hyn, a bydd yn monitro eu perfformiad gan weithredu lle bydd angen.
Rhaid i ni weithio tuag at greu cysylltiadau da rhwng pawb yn barhaus, gan sicrhau nad yw’r amodau ar gyfer rhannu a rhwygo cymdeithasau’n cael cyfle i ddatblygu. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn defnyddio rhwydwaith datblygedig o ffynonellau lleol i fonitro tensiynau cymdeithasol rhwng grwpiau, a gweithio tuag at leihau’r rhain.
Rydym hefyd yn defnyddio ein gwaith ymgyrchu, ein gwaith lobio a’n cyhoeddiadau i weithio tuag at gymdeithas fwy integredig, lle bydd pobl nid yn unig yn byw’n heddychlon gyda’i gilydd, ond yn cymdeithasu gyda’i gilydd ac yn hyderus gyda gwahaniaethau ei gilydd.
Back to top^
Datblygu dealltwriaeth a thystiolaeth
Trwy gomisiynu, asesu a chyhoeddi ymchwil, bydd y comisiwn yn ceisio dod yn ffynhonnell barchus o wybodaeth seiliedig ar dystiolaeth am gyflwr cydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain.
Mae gan y comisiwn gyfrifoldeb i gynhyrchu adroddiadau ‘cyflwr y genedl’ bob tair blynedd hefyd, ac i gyflwyno’r rhain i’r senedd. Bydd y rhain yn asesu cydraddoldeb ac anghydraddoldeb ym Mhrydain, a faint o ddatblygiad sydd wedi cael ei wneud.
Back to top^
Ein gwasanaethau
Partneriaeth ACAS
Mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS), bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn helpu cyflogwyr i gael profiad ymarferol, uniongyrchol o arferion cydraddoldeb da.
Gwasanaeth cymodi anabledd
Mae gwasanaeth cymodi anabledd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cynnig dewis gwahanol effeithiol yn hytrach nag achos llys, pan fydd y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd wedi cael ei thorri.
Mae gwasanaeth cymodi anabledd yn defnyddio ymdriniaeth ar sail hawliau sy’n sicrhau bod achosion yn cael eu datrys yn gyflym ac yn effeithiol. Canolbwyntir ar newidiadau mewn arferion, polisïau a gweithdrefnau. Gall arwain at newid parhaol i bobl anabl, yn hytrach na thaliadau digolledu.
Mae’r gwasanaeth am ddim, yn gyfrinachol ac yn hygyrch, gan alluogi pobl anabl i ymarfer eu hawliau o ran nwyddau a gwasanaethau ac addysg ôl-16.
Mae llinell gymorth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gweld pa achosion sy’n briodol ar gyfer cymodi ac yn eu cyfeirio at yr uned reoli cymodi mewnol. Bydd yr uned reoli cymodi yn asesu ymarferoldeb achosion ac yn annog pobl anabl a darparwyr gwasanaeth ac addysg i gymodi.
Darparwyr adran 44 – grantiau
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am adran 44 o’r Ddeddf Cysylltiadau Hiliol, sy’n rhoi canllawiau ar gyfer rhoi cymorth ariannol i sefydliadau eraill. Rydym yn cefnogi prosiectau arloesol sy’n arwain at ganlyniadau gwirioneddol sy’n gwneud gwahaniaeth i gydraddoldeb hiliol a chysylltiadau hiliol yn lleol.
Llinell gymorth
I gael manylion am ein llinell gymorth, ewch i’r dudalen Cysylltu â ni.
Back to top^