Swyddog Gweinyddol, Caerdydd (Cyfnod mamolaeth) 

 

 

View this page in English

Swydd Llawn Amser 36 awr - Cyfnod Mamolaeth (hyd at 12 mis)

Cyflog: £15,000

Mae Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol i bawb, gan weithio i ddileu gwahaniaethu, lleihau anghydraddoldeb, diogelu hawliau dynol a meithrin cysylltiadau da, gan sicrhau bod pawb yn cael cyfle teg i gymryd rhan mewn cymdeithas.

Bydd yr ymgeisydd yn cefnogi pob aelod o dîm Cymru gyda'r broses o weinyddu gweithgareddau, fel y caiff swyddogaethau allweddol eu cyflwyno'n effeithiol.

  • Bydd yr ymgeisydd yn ymdrin â'r ymholiadau cyntaf dros y ffôn a'r e-bost gan gydweithwyr eraill yng Nghomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Prydain Fawr yn ogystal â phartïon allanol megis cyflogwyr, grwpiau rhanddeiliaid a'r cyhoedd
  • Bydd gan yr ymgeisydd wybodaeth a dealltwriaeth o raglenni Microsoft. Bydd angen i ddeiliad y swydd ddatblygu rhywfaint o ddealltwriaeth o faterion cydraddoldeb a hawliau dynol.

Yn gyfnewid am hyn, byddwn yn cynnig lwfans gwyliau hael, cynllun pensiwn gwasanaeth sifil a buddiannau eraill.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau wedi'u cwblhau yw: Dydd Llun 10fed Mawrth am hanner dydd . Cynhelir cyfweliadau yng Nghaerdydd ddydd Iau 27ain Mawrth.

I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd cysylltwch â Shona Macdonald ar 0161 829 8355 neu anfonwch e-bost i recruitment@equalityhumanrights.com.

Am fanylion llawn am y swydd a gwybodaeth am sut i wneud cais ewch i www.equalityhumanrights.com. Gallwn roi manylion swyddi i chi mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch. Os byddwch am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn neu os oes gennych unrhyw ofynion penodol i'ch galluogi i gwblhau'r broses o wneud cais, cysylltwch â ni ar 0161 829 8100 (Rhif minicom 0161 829 8341).