View this page in English
Dod â phobl at ei gilydd
Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein cynllun busnes blwyddyn lawn cyntaf, yn dilyn ei gymeradwyaeth gan ein Bwrdd Comisiynwyr.
Y cynllun busnes
Mae’r cynllun yn gosod allan ein nodau a blaenoriaethau strategol ar gyfer ein blwyddyn lawn gyntaf. Mae’n disgrifio’r hyn y dymunwn ei gyflawni, sut mae ein gwaith yn berthnasol i boblogaeth gyfan Prydain a sut byddwn yn defnyddio ein hadnoddau i gael yr effaith orau.
Mae’r cynllun hwn yn ymwneud â dod â phobl at ei gilydd – gweithio gydag eraill i gulhau bylchau mewn cydraddoldeb, rhwygo rhwystrau rhwng cymunedau, ac ymdrin ag achosion sylfaenol rhagfarn ac anoddefgarwch. Mae’n canolbwyntio ar yr angen, i bawb sy’n byw ym Mhrydain, gael ymdeimlad dyfnach o ymroddiad a pharch ar y cyd yn seiliedig ar werthoedd a rennir, sydd â thegwch yn wraidd iddynt.
Mae’r ymroddiad hwn yn bresennol trwy bob agwedd ar ein cynllun a’r gwaith y byddwn yn ei gyflawni yn y 12 mis nesaf.
Gallwch lawrlwytho copi o’r cynllun busnes isod.
Ein cynllun busnes 2008/9 (PDF 524 KB)
Ein cynllun busnes 2008/9 (Word 960 KB)
Cynllun Busnes 2008/09 Crynodeb (PDF 227kb)
Os hoffech archebu copi argraffedig o’r cynllun busnes neu os oes ei angen arnoch mewn fformat arall, cysylltwch ag un o’n llinellau cymorth.
Ein blaenoriaethau a thargedau cyflawni allweddol ar gyfer 2008/9
Mae gennym bedair blaenoriaeth strategol:
- Dadansoddi, diffinio a thargedu heriau cydraddoldeb a hawliau dynol allweddol
- Newid polisi ac arfer cyfundrefnol er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell ochr yn ochr ag economi effeithiol a deinamig
- Ennyn diddordeb a chynnwys y cyhoedd sy’n dod o gymunedau ac ardaloedd amddifad
- Rhagweld newid cymdeithasol, datblygu naratif newydd a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd mewn ffyrdd sy’n cryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol
I’n helpu i gyflawni ein blaenoriaethau strategol, rydym wedi datblygu 12 targed cyflawni allweddol i gwmpasu holl feysydd ein gwaith. Mae’r rhain yn amrywio o lobïo am ddeddfwriaeth flaengar, gan gynnwys Deddf Cydraddoldeb newydd, i ddatblygu strategaeth ddigidol amlgyfryngau.
Yr hyn rydych wedi dweud wrthym hyd yma a sut rydym wedi defnyddio eich ymatebion
Er mwyn datblygu’r cynllun, gweithiasom yn agos gyda’n Comisiynwyr, staff a rhan-ddeiliaid i gael eu barn ar ein cyfeiriad strategol. Ym misoedd Ionawr a Chwefror 2008, bu i ni gynnal cyfres o ddigwyddiadau i ran-ddeiliaid yng Nghaerdydd, Glasgow, Llundain a Manceinion, a bu i fwy na 70 o sefydliadau anfon cynrychiolwyr. Rydym wedi ceisio cynnwys cynifer o’r pethau y soniasoch chi amdanynt yn ein cynllun busnes a bydd llawer o’r materion a godwyd yn ffurfio sail trafodaethau ar ein cynllun strategol yn ystod y flwyddyn nesaf.
Beth sy’n digwydd nesaf
Yn ystod y 12 mis nesaf, byddwn yn parhau i weithio gydag ystod y sefydliadau ar draws holl feysydd ein gorchwyl er mwyn creu ein cynllun strategol tair blynedd cyntaf. Byddwn yn defnyddio ffyrdd o ennyn diddordeb pobl sy’n mynd y tu hwnt i ymgynghoriadau traddodiadol ar bapur. Byddwn yn defnyddio dulliau arloesol i gyrraedd pobl a fydd yn ein helpu i weithio gyda chymaint o grwpiau ac unigolion gwahanol â phosibl.
Bydd ein cynllun strategol sydd ar ddod yn pennu ein blaenoriaethau tymor hir, megis sut rydym yn defnyddio ein pwerau gorfodi, a bydd yn ein helpu i lunio trafodaethau allweddol. Bydd yn archwilio hefyd sut rydym yn cryfhau agweddau cadarnhaol at amrywiaeth a hawliau dynol.
Cysylltu â ni
Os hoffech ragor o wybodaeth am ein cynllun busnes neu wneud sylw arno, anfonwch e-bost atom yn businessplanning@equalityhumanrights.com neu ysgrifennwch at:
Business Planning Team
Equality and Human Rights Commission
2nd Floor Arndale House
Arndale Centre
Manchester M4 3AQ
Neu gallwch ffonio un o’n rhifau ffôn cymorth