Gweledigaeth, cenhadaeth a blaenoriaethau 

Ein gweledigaeth

Cymdeithas wedi’i seilio ar degwch a pharch.  Pobl sy’n hyderus ym mhob agwedd ar eu hamrywiaeth.

Ein cenhadaeth

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw hyrwyddwr annibynnol cydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain.  Ei nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, cryfhau perthynas dda rhwng pobl a hyrwyddo a diogelu hawliau dynol.

Mae’r comisiwn yn herio rhagfarn ac anfantais ac yn hyrwyddo pwysigrwydd hawliau dynol.

Mae’r comisiwn yn gorfodi deddfwriaeth gydraddoldeb ar oedran, anabledd, rhyw, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu statws trawsrywiol, ac yn annog cydymffurfiad â’r Ddeddf Hawliau Dynol.

Er mwyn cyflawni newid effeithiol, mae’r comisiwn yn defnyddio dylanwad ac awdurdod er mwyn sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn parhau i fod ar frig yr agenda i’r llywodraeth a chyflogwyr, y cyfryngau a chymdeithas.  Byddwn ni’n ymgyrchu dros newid cymdeithasol a chyfiawnder.

Trwy weithredu’n uniongyrchol a meithrin partneriaethau ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, mae’r comisiwn yn ysgogi trafodaeth ar gydraddoldeb a hawliau dynol.

Mae’r comisiwn yn rhoi cyngor ac arweiniad i fusnesau, y sector gwirfoddol a chyhoeddus ac i unigolion hefyd.

Trwy ddatblygu dealltwriaeth ar sail tystiolaeth ar achosion ac effeithiau anghydraddoldeb ar bobl ledled Prydain, bydd y comisiwn yn llais awdurdodol dros ddiwygio.

Ein blaenoriaethau

Creu comisiwn credadwy ac annibynnol – Bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn sefydliad cadarn a hyblyg gyda delwedd gyhoeddus agored a chyfeillgar. Byddwn ni’n cynnig gwasanaethau cynghori a chwyno effeithiol. Bydd ein gwaith yn seiliedig ar lawer o waith ymchwil a byddwn yn creu rhwydwaith cynhwysol o bartneriaid a hyrwyddwyr.

Targedu meysydd cydraddoldeb allweddol - Bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn creu map clir o’r heriau allweddol yn y gweithle, yn rhoi ymateb uchelgeisiol i’r Adolygiad o’r Gyfraith Gwahaniaethu, yn gwneud asesiad cynhwysfawr o i ba raddau mae gwasanaethau cyhoeddus wedi cyflawni’r dyletswyddau cadarnhaol ac yn paratoi rhaglen o gyhoeddiadau ‘braenaru’ awdurdodol, mewn paratoad ar gyfer ein hadroddiad ‘cyflwr y genedl’ cyntaf.

Gwella cyfleoedd bywyd a lleihau anghydraddoldebau – Bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn defnyddio’i bwerau cyfreithiol yn gyflym ac yn effeithlon; byddwn ni’n lansio ymgyrch fawr, hirdymor yn erbyn rhagfarn, gan gysylltu’n arbennig â phobl ifanc, ac ymgyrch fawr yn erbyn troseddau casineb. Byddwn ni’n ymgyrchu hefyd dros gael eiriolaeth annibynnol ar gyfer grwpiau difreintiedig.

Hyrwyddo dealltwriaeth newydd o’r diwylliant cydraddoldeb a hawliau dynol – Bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn rhoi rhaglen hyfforddi hawliau dynol gynhwysfawr ar waith i staff a phartneriaid a rhaglen grantiau sy’n hyrwyddo hawliau dynol lleol a chysylltiadau da. Byddwn hefyd yn anelu at arwain yr agenda deallusol, trwy gyfres o ddarlithoedd a thrafodaethau cyhoeddus a phreifat.