View this page in English
Trevor Phillips (cadeirydd)
Barwnes Margaret Prosser o Battersea OBE (dirprwy gadeirydd)
Dr Nicola Brewer (prif swyddog weithredydd)
Kay Allen
Barwnes Jane Campbell DBE
Kay Carberry
Jeannie Drake CBE
Barwnes Sally Greengross OBE
Yr Athro Kay Hampton
Francesca Klug
Syr Bert Massie CBE
Ziauddin Sardar
Ben Summerskill
Dr Neil Wooding
Morag Alexander
Maeve Sherlock OBE
Joel Edwards
Trevor Phillips (cadeirydd)
Ar Fedi’r 8fed 2006, cyhoeddwyd Trevor Phillips yn gadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol newydd a fabwysiadodd gwaith y tri comisiwn cydraddoldeb a fodolai ar y pryd ym Mhrydain, ar Hydref 1af 2007.
Fe apwyntiwyd Trevor yn gadeirydd y CCH ar Fawrth 1af .
Wedi’i eni yn Llundain ym 1953, mynychodd Trevor ysgol eilradd yn Georgetown, Guyana, ac yna astudiodd cemeg yng Ngholeg Ymerodrol Llundain. Rhwng 1978 a 1980 roedd yn lywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr. Yna bu’n gweithio yn y byd darlledu, a daeth yn bennaeth ar faterion cyfoes yn LWT ym 1992. Gwobrwyd ddyfaldaliadau i Trevor gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol ym 1988, 1993 a 1998.
Etholwyd ef yn aelod o Awdurdod Llundain Fwyaf ym mis Mai 2000, a daeth yn gadeirydd y Cynulliad yn ddiweddarach yn y mis hwnnw.
Mae Trevor yn gyfarwyddwr ‘Pepper Productions’, a sefydlwyd ym 1995, ac roedd yn gynhyrchydd gweithredol ar Windrush (a ddyfarnwyd yn gyfres ddogfen y flwyddyn gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol ym 1998), ‘Britain’s Slave Trade’, ‘Second Chance’ a ‘When Black Became Beautiful’. Mae e’n is-lywydd y Gymdeithas Deledu Frenhinol.
Ar hyn o bryd, mae e’n aelod bwrdd o theatr yr Almeida yn Islington, ‘Aldeburgh Productions’ a Chanolfan Bernie Grant yn Tottenham. Mae e’n noddwr y Gymdeithas ‘Sickle Cell’. Rhwng 1993 a 1998, roedd Trevor yn gadeirydd Ymddiriedolaeth ‘Runnymede’.
Yn ychwanegol i lawer o erthyglau papur newydd a darnau sylwadau, mae Trevor wedi ysgrifennu ’ Windrush: The Irresistible Rise of Multiracial Britain’ar y cyd â Mike Phillips a gyhoeddwyd ym 1998, a ‘Britain’s Slave Trade’ gyda S.I.Martin, a gyhoeddwyd y flwyddyn wedyn.
Barwnes Margaret Prosser o Battersea OBE (dirprwy gadeirydd)
Ar Rhagfyr 5 2006, cyhoeddwyd Margaret Prosser yn ddirprwy gadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Gynt yn Ddirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Gweithwyr Cludiant a Chyffredinol. Roedd Margaret yn lywydd y TUC, yn Gomisiynydd y Comisiwn Cydraddoldeb ac yn Undebwraig Llafur Rhyngwladol weithredol,yn cadeirio Pwyllgor Menywod y Byd Undeb Llafur Cemeg ac Egni Cenedlaethol.
Ar ôl ymddeol o Undeb Llafur Cludiant a Chyffredinol cafodd Margaret ei hapwyntio yn gadeirydd Comisiwn Cenedlaethol y Menywod, swydd y bu iddi ddal am bedair blynedd cyn ymddeol i gymryd ei swydd gyda’r CCHD.
Yn 2004 gofynnwyd i Margaret i gadeirio’r Comisiwn Menywod a Gwaith gan y prifweinidog i edrych ar achosion tâl ar sail rhyw a’r bwlch cyfleoedd. Adroddodd y WWC(Pwyllgor Menywod y Byd) yn Chwefror 2006 ac mae Margaret yn dal i weithio gyda’r TU, y lobi busnes a’r NGO i hyrwyddo’u argymhellion.
Daeth Margaret yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi ym mis Gorffennaf, ac ym mis Tachwedd y flwyddyn honno apwyntiwyd hi ‘n gyfarwyddydd anweithredol y Post Brenhinol.
Dr Nicola Brewer (prif swyddog gweithredol)
Apwyntiwyd Dr Nicola Brewer yn brif swyddog gweithredol cyntaf y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn Rhagfyr 2006. Dechreuodd ar ei gwaith ar Fawrth 5ed 2007.
Cyn ymuno â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, bu Nicola yn gyfarwyddwr cyffredinol dros Ewrop yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, lle roedd yn gyfrifol am gyflawni un o ddeg blaenoriaeth stategol rhyngwladol y DU : ‘ UE effeithiol a chystadleuol byd eang mewn cymdogaeth ddiogel’. Arweiniodd cyfraniad y SDC i Lywyddiaeth y DU o’r UE yn 2005, ac mae’n cynghori’r ysgrifennydd gwladol a’r gweinidog dros Ewrop ar faterion polisiau ‘r UE ac Ewropeaidd arall. Mae hi’n aelod o Fwrdd y SDC.
Cyn hynny, bu Nicola yn gyfarwyddwr cyffredinol dros raglenni rhanbarthol yn yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol (AdDDRH), yn goruwchwylio rhaglenni cymorth dwyochrol tramor y DU, ac roedd yn aelod o Fwrdd y AdDDRH hefyd.
Mae Nicola wedi gweithio dramor yn India, FFrainc a Mecsico. Ymunodd â’r SDC ym 1983, wedi graddio yn Saesneg ac Ieitholaeth ym Mhrifysgol Leeds. Fe’i gwobrwyd gyda’r CMG yn 2002. Mae hi’n briod ac mae ganddi ddau o blant.
Kay Allen
Ar Rhagfyr 5, 2006 cyhoeddwyd Kay Allen yn gomisiynydd i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Wedi’i chydadnabod fel un o arbenigwyr amrywioldeb blaenllaw y DU, mae Kay yn Aelod Siartredig o’r CIPD gyda phrofiad uniongyrchol 16 mlynedd mewn rheoli amrywioldeb.
Ym 1992, fe ddaeth yn Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol i Gerddorfa Brenhinol FFilharmonig Lerpwl . Wrth gyflawni’r swydd hon, daeth Kay yn ymwybodol o’r angen i ddeall amrywiaeth parthed proffeil cwsmer a datblygiad busnes a chyflwynodd un o’r rhaglenni amrywioldeb cyntaf yn y celffyddydau. Oddi yma, datblygodd rôl arbenigol mewn rheoli amrywioldeb corfforaethol a gwahoddwyd hi i fod yn bennaeth tîm amrywioldeb B&Q ym 1995, lle roedd yn gyfrifol ar ddatblygu a gweithredu ei strategaeth amrywioldeb clodwiw.
Yn Ionawr 2000 apwyntiwyd Kay yn gomisiynydd i’r Comisiwn Hawliau Anabledd.
Yn 2001, ymunodd â’r Grŵp LLawr Gwlad fel arbenigwraig amrywioldeb a bu’n weithgar mewn amryw o raglenni, yn cynnwys gwaith dros y Fyddin Brydeinig a nifer o gyrff sector cyhoeddus.
Yn ei hapwyntiad mwyaf diweddar, ymunodd Kay â’r Post Brenhinol fel pennaeth y grŵp polisi cymdeithasol a chynwysiad. Roedd ei swyddogaeth blaenorol yn ymwneud â materion cyfoes yn BSkyB, lle gweithredai strategaeth amrywioldeb. Mae hi’n ymdrin âg ystôd o faterion, yn cynnwys portreadu anabledd, cyflogi pobl anabl, ac hygyrchedd i wasanaethau.
Barwnes Jane Campbell o Surbiton DBE
Ar Rhagfyr 5, 2006 cyhoeddwyd Barwnes Jane Campbell yn gomisiynydd i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Mae Jane yn gynghorydd polisi iechyd a gofal cymdeithasol annibynnol. Mae hi’n gadeirydd y Panel Arbennigol Adolygu Byw’n Annibynnol y Swyddfa dros Faterion Anabledd (SFA), a bu’n gomisiynydd y Comisiwn Hawliau Anabledd (CHA) ers ei sefydlu yn 2000. Mae hi’n aelod o fwrdd golygu’r ‘British Journal of Social Work’ (BJSW) ac yn ymddiriedolwr y Canolfan Cenedlaethol dros Fyw’n Annibynnol. Yn ddiweddar wnaeth Jane rhoi’r gorau i’w rôl fel cadeirydd y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SGCRh), corff annibynnol a ariennir gan y llywodraeth a’i fryd ar wella gofal cymdeithasol ar draws Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon. Fe gydsefydlodd y Canolfan Cenedlaethol dros Fyw’n Annibynnol a’i gyfarwyddo am adeg. Yn ei swydd fel cadeirydd Cyngor Pobl Anabl Prydain o 1991-95, arweiniodd y corff drwy pheth o’i waith mwyaf arloesol yn y meysydd o fyw’n annibynnol, hawliau dinesig, cwnsela cyfoedion a chyfle cyfartal.
Mae gan Jane gryn hanes o bwyso ar aelodau seneddol er mwyn gwella hawliau dynol a dinesig ystôd o gymunedau ag eithriwyd, drwy ysgogi ‘r bobl anabl oll, beth bynnag eu diagnosis, o holl sectorau cymdeithas, i reoli’u bywyd a dylanwadu newid gwleidyddol a chymdeithasol.Bu i’r gwaith hwn yn sylfaen i lyfr, ‘Disability Politics (Routledge 1996), wedi’i gydysgrifennu â’r Athro Michael Oliver. Oherwydd ei gwaith, anrhydeddwyd Jane ddwywaith gan ddathliadau penblwydd y Frenhines yn 2000 ac eto yn 2006, a gwobrwyd hi â dwy radd doethuriaeth er anrhydedd.
Kay Carberry
Ar Rhagfyr 5, 2006 cyhoeddwyd Kay Carberry yn gomisiynydd i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Apwyntiwyd Kay yn ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol y TUC yn Ionawr 2003, ar ôl bod y pennaeth cyntaf ar adran hawliau cydraddoldeb y TUC a sefydlwyd ym 1988. Fel pennaeth yr adran newydd, sefydlodd strwythurau cydraddoldeb newydd yTUC, yn cynnwys pwyllgorau arbenigol newydd a chynadleddau yn canolbwyntio ar faterion yn ymwneud âg anabledd a chyfeiriadedd rhyw, i atodi strwythurau sy wedi bodoli ers tro a sydd yn cynrychioli buddiannau’r gweithwyr benywaidd a’r bobl dduon. Mae’r cyrff cydraddoldeb hynny y TUC wedi arwain cefnogaeth y TUC dros yr undebau llafur yn eu gwaith i atal gwahaniaethu, hyrwyddo cydraddoldeb a diogelu buddiannau’r gweithwyr benywaidd a’r lleiafrifoedd difreintiedig.
Fel cynrychiolydd y TUC, mae Kay wedi cymryd rhan mewn datblygu polisi cyhoeddus ar draws ystôd o feysydd ac mae wedi gwasanaethu ar nifer o gyrff cynghorol y llywodraeth ar gydraddoldeb, addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Yn y blynyddoedd diweddar, mae hyn wedi cynnwys aelodaeth o grwpiau sydd yn canolbwyntio ar amrywiaeth oedran, cydbwysedd gwaith a byw, cefnogaeth rhieni ac ymfudiad. Mae wedi bod yn gomisiynydd y Comisiwn Cyfle Cyfartal ers 1999 ac roedd yn aelod o’r Comisiwn Menywod a Gwaith a adroddodd i’r prif weinidog yn Chwefror 2006 gyda’r argymhellion i gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau o fewn cenhedlaeth.
Mae hi’n ymddiriedolwr o ‘Deuluoedd Un Rhiant’, ‘Amgueddfa Hanes y Bobl’, ‘y Sylfaen Gwaith’ ac yn aelod o'r Cyngor Ffrainc-Prydain.
Jeannie Drake CBE
Mae Jeannie Drake CBE yn ddirprwy ysgrifennydd cyffredinol Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu. Mae hi’n aelod o Dribiwnlys Apêl Cyflogaeth, yn gwasanaethu ar fyrddau’r Asiantaeth Datblygu Sgiliau Sector a’r Gronfa Diogelu Pensiynau. Mae hefyd yn aelod o Gyngor Cyffredinol y TUC a’i bwyllgor gweithredu.
Mae Jeannie hefyd yn gyfrifol am faterion pontio ynglyn â’r cyn Gomisiwn Cyfle Cyfartal ar fwrdd Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Barwnes Greengross OBE
Ar Rhagfyr 5 2006 cyhoeddwyd y Farwnes Sally Greengross yn gomisiynydd i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Mae Sally yn brif weithredwr y Canolfan Hirhoedledd Rhyngwladol y DU. Mae hi hefyd yn cyd-gadeirio’r Cynghrair dros Iechyd a’r Dyfodol.
Mae Sally wedi bod yn aelod trawsfainc (annibynnol) o Dŷ’r Arglwyddi ers 2000. Mae hi’n aelod o isbwyllgor G materion Treulio a Chymdeithasol yr Arglwyddi, a mae’n cadeirio ddau grŵp seneddol holl bleidiol: cyfrifioldeb cymdeithasol corfforaethol a’r grŵp dros dadcu-od a mamgu-od a pherthnasau ehangach.
Mae hi’n gadeirydd y Corfflu Profiad, ac hefyd yn gadeirydd o grŵp cynghori’r UCL dros yr astudiaeth hydredol Saesneg ar heneiddio.Mae hi’n noddwr i ‘Beginnings’, menter i hybu cyflogi pobl âg anabledd, ac mae hi’n aelod bwrdd o ‘HelpAge International’, ymysg llawer o ddiddordebau elusen arall. Mae hi’n ymddiriedolwr i’r ‘Resolution Foundation’, llywydd y Sefydliad Polisiau Pensiwn ac Is-lywydd anrhydeddus y Gymdeithas Frenhinol dros Hyrwyddo Iechyd.
Roedd Sally yn gyfarwyddwr cyffredinol Age Concern Lloegr o 1987 tan 2000, ac yn nawr ei is-lywydd. Tan 2000, roedd hi’n gyd cadeirydd o Sefydliad Age Concern o Gerontology yng ngholeg y Brenhinoedd Llundain, ac ysgrifennydd cyffredinol Eurolink Age. Yn Age Concern, sefydlodd lawer o raglenni menter ac roedd hefyd yn gyfrifol am adeiladu busnesau Age Concern yn fusnes lluos- filiwn o bunnoedd.
Anrhydeddwyd Sally â ddoethuriaethau gan saith o brifysgolion y DU.
Yr Athro Kay Hampton
Daeth Kay Hampton yn gadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol (CCH) ar Rhagfyr 1 2006. Cyn hynny, bu Kay yn ddirprwy gadeirydd y Comisiwn yn yr Alban.
Ar hyn o bryd mae Kay yn ddarlithydd troseddeg ym Mhrifysgol Caledonian Glasgow. Fel gyn gymrodor ymchwil a chyfarwyddwr yr Uned Ymchwil Lleiafrifoedd Ethnig yr Alban rhwng 1995 a 2000, fe bu’n ymchwilio a chyhoeddi’n helaeth ar hiliaeth, ethnigrwydd a gwahaniaethu. Cyflogwyd Kay hefyd gan Brifysgol Durban-Westville, De Affrica (1978-1989), a chan adran cynllunio strategol Cyngor Dinas Durban (1990-1993).
Bu Kay’n ymwneud yn agos â’r sector gwirfoddol yn Ne Affrica. Ers cyrraedd yr Alban yn 1994, mae hi wedi gweithredu ar nifer o bwyllgorau rheoli, ymddiriedolaethau a byrddau’n ymwneud âg anghydraddoldeb ac anfantais, yn cynnwys y Gronfa Gymunedol (lle roedd yn aelod bwrdd ac yn gadeirydd rhwng 1998 a 2003) a Gwobrwyon y Gymdeithas Ymddiried Wellcome (2001-2003). Mae hi’n ymddiriedolwr i Gyngor Ffoaduriaid yr Alban.
Mae Kay hefyd ar fwrdd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yn gyfrifol am faterion pontio ynglŷn â’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol.
Yr Athro Francesca Klug OBE
Ar 5 Rhagfyr 2006, cyhoeddwyd bod Francesca Klug wedi’i phenodi’n un o gomisiynwyr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Mae Francesca Klug yn gymrawd ymchwil athrawol yng Nghanolfan Astudiaethau Llywodraethu Byd-eang, Ysgol Economeg a Gwyddorau Gwleidyddol Llundain, yn Uwch Gydymaith Ymchwil yn y Ganolfan Astudiaethau Hawliau Dynol ac yn Gyfarwyddwr y prosiect Dyfodol Hawliau Dynol. Roedd hi’n aelod o Grŵp Llywio Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y llywodraeth ac yn ymgynghorydd academaidd annibynnol ar y Mesur Cydraddoldeb. Mae hi’n aelod o Grŵp Cyfeirio bach y Mesur Hawliau a Chyfrifoldebau yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae hi hefyd yn un o gomisiynwyr y Comisiwn ar Ddiogelwch Gwladol yn yr Unfed Ganrif ar Hugain y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus. Mae hi wedi bod yn ymgynghorydd arbenigol i’r Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol, gan gynnal adolygiad o’u harferion gweithio.
Mae Francesca yn gyn uwch gymrawd ymchwil yn Ysgol y Gyfraith King’s College, lle bu’n gweithio ar y model ar gyfer ymgorffori’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol i gyfraith y DU fel y’i hadlewyrchir yn y Ddeddf Hawliau Dynol. Roedd hi’n aelod o Dasglu Hawliau Dynol y Swyddfa Gartref ac mae hi’n gyn gyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Hawliau Sifil. Enillodd OBE am ei holl waith ym maes hawliau dynol a chyfiawnder sifil yn rhestr anrhydeddau’r flwyddyn newydd yn 2002.
Mae Francesca wedi bod yn ymgyrchu dros gydraddoldeb a hawliau dynol ers 25 mlynedd. Roedd ei swydd gyntaf yn y Mudiad Gwrth-Apartheid a bu’n gweithio fel swyddog ymchwil yn Ymddiriedolaeth Runnymede am bedair blynedd.
Francesca yw awdur 'Values for a Godless Age,' a gyhoeddwyd gan Penguin ym mis Hydref 2000. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio ar ddilyniant iddo, sydd i’w gyhoeddi gan Routledge dan y teitl gwaith 'How Rights Went Wrong: time for a new Enlightenment?' Mae hi’n ysgrifennu’n rheolaidd ar gyfer cyfnodolion cyfreithiol a gwleidyddol a’r wasg Brydeinig ac yn ddarlledwraig gyson.
Syr Bert Massie CBE

Roedd Syr Bert Massie yn gadeirydd y Comisiwn Hawliau Anabledd (CHA) tan iddo gau yn niwedd Medi 2007. Mae’n gomisiynydd i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac yn ymddiriedolwr i nifer o gyrff gwirfoddol yn cynnwys y Sefydliad Astudiaethau Cyflogi, Cymdeithas Tai Habinteg, a Motability.
Yn ystod y 30 mlynedd ddiwethaf, bu’n gyfrannog â nifer mawr o gyrff anabledd. Bu hefyd yn ymwneud â nifer o bwyllgorau ymgynghorol y llywodraeth ynglyn âg anabledd. Mae’r rhain yn cynnwys y Pwyllgor Ymgynghorol ar Gludiant Pobl Anabl a’r Pwyllgor Ymgynghorol Cenedlaethol ar Gyflogi Pobl Anabl. Roedd yn ddirprwy gadeirydd y Cyngor Anabledd Cenedlaethol ac yn aelod o’r Tasglu ar Hawliau Anabledd.
Ym 1978, ymunodd â’r Gymdeithas Frenhinol dros Anabledd ac Adsefydlu a daeth yn gyfarwyddwr iddi ym 1990. Arhosodd yno tan ddiwedd 1999, pan ddaeth yn gadeirydd o’r CHA ym mis Ionawr 2000(cafodd ei apwyntio yn Hydref 1999). Mae e’n awdur neu’n gyd awdur i nifer o lyfrau a llyfrynnau yn ymwneud â materion anabledd. Urddwyd ef yn farchog yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd am ei waith dros bobl anabl.
Mae Bert hefyd yn gyfrifol am faterion pontio yn ymwneud â’r CHA ar fwrdd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Ziauddin Sardar
Ar Rhagfyr 5 2006, cyhoeddwyd Ziauddin Sardar yn gomisiynydd i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae Ziauddin yn ysgrifennwr, darlledwr ac yn academydd. Mae hefyd wedi ysgrifennu’n helaeth am faterion hawliau dynol, cydraddoldeb a chymunedol. Mae e hefyd wedi gweithredu’n gynt yn gynghorydd ar faterion cydraddoldeb, datblygiadol a chyfansoddiadol i gyrff rhyngwladol a nifer o lywodraethau cenedlaethol.
Ben Summerskill
Ar Rhagfyr 5 2006, cyhoeddwyd Ben Summerskill yn gomisiynydd i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Apwyntiwyd Ben yn brif weithredwr Stonewall ym Mawrth 2003.
Fe arweiniodd yn llwyddiannus, ymgyrchoedd seneddol dros gyflwyno partneriaeth dinesig ac fe arloesodd ‘ nwyddau a gwasanaethau’ diogelwch newydd i bobl hoyw , i’w cyflwyno’n gynnar yn 2007.
Yn Stonewall, bu iddo arwain tyfiant trefniadaethol arwyddocaol yn y dair blynedd ddiwethaf, pan gododd aelodaeth rhaglen arfer dda Pencampwyr AmrywiaethStonewall dros gyflogwyr yn sylweddol o 35 aelod i 250. Mae’r cyrff sy’n gyfrannol yn y rhaglen – yn cyflogi bron i bedair miliwn o bobl rhyngddynt – yn amrywio o IBM, Clwb Pêl Droed Dinas Manceinion a Barclays yn y sector breifat i’r Llynges Frenhinol yn y sector gyhoeddus.
Yn 2005, lansiodd Stonewall raglen Addysg i Bawb, wedi ei gefnogi gan gynghrair o 70 o gyrff, i fynd i’r afael â homoffobia yn yr ysgol. Hyd at 2003, treuliodd Ben 12 mlynedd fel newyddiadurwr a bu gynt yn olygydd cynorthwyol i’r Observer. Cyn hynny, roedd yn gyfarwyddwr gweithrediadau i fwytŷ nodedig a chwmni gwesty.
Ers 2004, bu’n aelod o’r grŵp llywio a apwyntiwyd gan yr ysgrifennydd gwladol i gefnogi creadigaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae hefyd yn gynghorydd i Asiant Datblygu Llundain a Chomisiwn Cydraddoldeb Llundain.
Dr Neil Wooding
Ar Rhagfyr 5 2006, cyhoeddwyd Neil Wooding yn gomisiynydd i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Mae Neil wedi treulio llawer o’i yrfa yn gweithio â chyrff ar draws y DU i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol.
Ef oedd y cynghorydd cydraddoldeb cyntaf i’w apwyntio yng Nghymru ac yn ystod ei yrfa fe sefydlodd yn llwyddiannus y Canolfan GIG dros Gydraddoldeb a Hawliau Dynol. Ef oedd comisiynydd Cymru i’r Comisiwn Cyfle Cyfartal tan iddo gau ar Fedi 30 2007. Mae e’n gydgadeirydd i Stonewall Cymru, yn ymddiriedolwr i’r Ymddiriedolaeth Aids Genedlaethol a chyfarwyddwr anweithredol Cyngor Cydraddoldeb Hiliol De-Ddwyrain Cymru.
Mae e hefyd yn gyfarwyddwr Rheoli yng Ngwasanaethau Cyhoeddus Cymru, corff a osodwyd gan Lywodraeth y Cynulliad Cymru a chyrff gwasanaeth cyhoeddus i adeiladu rhinweddau rheoli ac arwain. Mae Neil yn gymrodor y Canolfan Cenedlaethol dros Bolisi Cyhoeddus ac yn awdurdod parchus ar gydraddoldeb a hawliau dynol. Mae’n byw gyda’i gymar yn ne-ddwyrain Cymru ac yn gyd riant i ddau o blant.
Morag Alexander
Ar Fawrth 29 2007, cyhoeddwyd Morag Alexander yn gomisiynydd i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Apwyntiwyd Morag yn gynullydd (cadeirydd) cyntaf Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban yn 2001. Bu hefyd yn gyfarwyddwr y Comisiwn Cyfle Cyfartal, Yr Alban o 1992 tan 2001; cadeirydd y Grŵp Cynghori Blynyddoedd Cynnar Plant yn Yr Alban o 1995 tan 2003; ac yn ymddiriedolwr ‘Turning Point’ Yr Alban o 1998 tan 2006. Mae Morag hefyd yn aelod o Lys Yr Alban Prifysgol y Frenhines Margaret, Caeredin.
Maeve Sherlock OBE
Mae Maeve Sherlock ym Mhrifysgol Durham ar hyn o bryd yn gwneud gwaith ymchwil ar gyfer ei doethuriaeth ar y testun rhyngwyneb rhwng Ffydd a’r Wladwriaeth ym Mhrydain fodern. Tan Hydref 2006, roedd Maeve yn Brif Weithredwr y Cyngor Ffoaduriaid, yr elusen fwyaf sy’n gweithio â ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Cyn hynny, treuliodd Maeve dair blynedd fel aelod Cyngor Cynghorwyr Economaidd yn y Trysorlys, yn cynghori’r Canghellor a gweinidogion y Trysorlys ar bortffolio o faterion yn cynnwys tlodi plant, marchnadoedd llafur a’r Trydydd Sector. Cyn symyd i’r Trysorlys, roedd Maeve yn brif weithredwr yr elusen One Parent Families a chyn hynny, cyfarwyddwraig UKCOSA, elusen sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr tramor ac addysg rhyngwladol. Mae hi’n gyn Lywydd o Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr.
Yn ystod Adolygiad Gwario 2007, cadeiriodd Maeve, Banel Cynghori yn cynghori gweinidogion ar rôl y Trydydd Sector yn y dyfodol mewn adfywiad cymdeithasol ac economaidd. Mae hi’n aelod o Gomisiwn Ymchwiliad Carnegie ar DDyfodol Cymdeithas Sifil ac yn feirniad dros Y Gwobrau Elusen.
Joel Edwards
Mae Joel Edwards wedi gwasanaethu ar nifer o grwpiau cynghori asiantaeth gyhoeddus, llywodraethol a ffydd ac mae’n ddarlledwr cyson dros gyfryngau’r DU a rhyngwladol.Ef yw Cyfarwyddwr Cyffredinol presennol y Gynghrair Efengylaidd ac yn Gadeirydd ‘Micah Challenge International’ a Chyngor Cyfryngau’r Eglwysi. Roedd yn swyddog prawf am 14 blynedd gyda Gwasanaeth Prawf Llundain Fewnol cyn ei apwyntiad fel Ysgrifennydd Cyffredinol o Gynghrair Efengylaidd Affricanaidd a’r Carabi ym 1988. Mae Joel yn Ganon anrhydeddus o Eglwys Gadeiriol St Paul ac mae ganddo ddoethuriaeth er anrhydedd o Brifysgol St Andrews.